CYFLWYNIAD

1.               Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli’r 22 awdurdod lleol yma yng Nghymru, yn ogystal â’r tri awdurdod parc cenedlaethol ac awdurdodau’r tri gwasanaeth tân ac achub a phedwar awdurdod yr heddlu sy’n aelodau cyswllt. 

2.             Ei nod yw cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol o fewn fframwaith polisi sy’n  bodloni prif flaenoriaethau ein haelodau a darparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n ychwanegu gwerth at Lywodraeth Leol Cymru a’r cymunedau a wasanaethant.

3.             Rydym yn cefnogi penderfyniad y pwyllgor i lansio’r ymchwiliad hwn i ddyfodol y berthynas rhwng Cymru a’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at gyfrannu ymhellach at waith y pwyllgor wrth i natur y berthynas rhwng Cymru a’r UE a’r partneriaid Ewropeaidd ehangach newid dros y cyfnod nesaf.

4.             Roeddem yn croesawu’r cyfle i roi tystiolaeth lafar yn ystod digwyddiad i randdeiliaid a gynhaliwyd gan y pwyllgor fel rhan o’r ymchwiliad hwn ddydd Llun 29 Ionawr. Mae’r cyflwyniad ysgrifenedig hwn yn adeiladu ar y materion a godwyd gennym yn y digwyddiad, ac wedi’i ategu gan arsylwadau pellach ynghylch perthynas Cymru â’r UE yn y dyfodol.

5.             Mae ein hymateb hefyd yn seiliedig ar adborth gan ein aelod-awdurdodau lleol fel rhan o’n hail Holiadur ar Brexit, a gyflwynwyd yn ddiweddar i holl Awdurdodau Lleol y wlad er mwyn casglu eu barn ar nifer o faterion yn ymwneud â Brexit. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu ymhellach â’r pwyllgor wrth i’r cynlluniau ar gyfer Brexit ddwysau.

 

Ein perthynas â’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau Cymru

6.             Dylai Cymru barhau’n flaengar a dal i drafod yn adeiladol â’r UE yn y dyfodol. Hefyd, dylai Cymru barhau i feithrin cysylltiadau agos â chenhedloedd a rhanbarthau ledled yr UE a thu hwnt, sy’n wynebu heriau a chyfleoedd tebyg.

7.             Mae parhau â’r mynediad i’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau a pharhau i symud nwyddau a phobl yn rhydd heb fawr o rwystrau, yn flaenoriaethau allweddol i Gymru.

 

8.             Yn ddelfrydol, dylai Cymru barhau i gael mynediad i holl Raglenni Cyllido’r UE sydd gennym ar hyn o bryd. Ond yn realistig, fodd bynnag, bydd mynediad parhaus i’r Rhaglenni Cyllido canlynol yn hollbwysig i Gymru, yn ystod gweddill cyfnod rhaglenni cyfredol yr UE (hyd at 2020) a thros gyfnod rhaglenni’r dyfodol (ar ôl 2020):

·         HORIZON

·         ERASMUS

·         Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd (trawsffiniol Iwerddon Cymru yn enwedig)

·         Ewrop Greadigol

·         LIFE

·         Agweddau cydweithredol ar elfen LEADER o’r Cynllun Datblygu Gwledig a’r Gronfa Pysgodfeydd

·         Rhaglenni sectorau thematig e.e. cyllid tuag at ynni niwclear, digidol a phobl ifanc

Byddai parhau â mynediad i Fanc Buddsoddi Ewrop hefyd yn hollbwysig i Gymru.

 

Lle Cymru ym Mrwsel

9.             Elfen allweddol o berthynas Cymru â’r UE yn y dyfodol yw’r angen am bresenoldeb gwahanol i Gymru ym Mrwsel. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddechrau trafod â’i phartneriaid allweddol, o’r sector cyhoeddus ehangach, addysg uwch a phellach, y sector preifat a’r trydydd sector, a sefydliadau diwylliannol, er mwyn ystyried pa fath o bresenoldeb sydd angen i Gymru ei gael ym Mrwsel er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein perthynas wahanol wrth symud ymlaen.

10.         Bydd angen i’r trefniadau newydd adlewyrchu cyd-destun datganoli yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys datblygiad y 4 Rhanbarth Datblygu Economaidd. Felly, bydd angen i drefniadau’r dyfodol ddiwallu anghenion a chynnig cyfleoedd i’n pedwar Rhanbarth Datblygu Economaidd feithrin partneriaethau perthnasol ag ardaloedd tebyg ar hyd a lled Ewrop, wrth iddynt gyflawni eu mentrau Bargen Ddinesig a Bargen Twf eu hunain.

 

 

 

 

Ein perthynas â’r UE yn y dyfodol: Cyfleoedd i barhau i ymgysylltu â’r UE a’i sefydliadau ar ôl Brexit

Statws cydymaith a/neu sylwedydd ar sefydliadau’r UE

11.            Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol wedi cyflwyno dewisiadau ar y berthynas rhwng llywodraeth leol y DU a Phwyllgor y Rhanbarthau’r UE ar ôl Brexit. Mewn ymateb i’r arolwg, dywedodd awdurdodau lleol Cymru y dylai fod perthynas yn y dyfodol rhwng llywodraeth leol y DU a Phwyllgor y Rhanbarthau, tebyg i gynigion y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

12.          Mae Dirprwyaeth y DU ar Bwyllgor y Rhanbarthau’r UE (mae gan CLlLC a Llywodraeth Cymru ddau gynrychiolydd etholedig yr un) wrthi’n ystyried papur trafod sy’n amlinellu trefniadau posib y dyfodol a fyddai’n sicrhau bod y cysylltiadau’n parhau rhwng Llywodraeth Leol y DU a’r Seneddau Datganoledig â’u cymheiriaid yn UE 27 (yn enwedig y rhanbarthau sy’n ffinio â Môr y Gogledd, y Sianel a’r Môr Celtaidd) ac o bosib Norwy a Gwlad yr Iâ.

13.          Mae’r papur o blaid creu Fforwm Gogledd-orllewin Ewrop yn cynnwys cynrychiolwyr llywodraeth leol o’r DU, EFTA a Phwyllgor y Rhanbarthau’r UE, wedi’i seilio ar strategaeth facro ranbarthol Gogledd-orllewin Ewrop. Mae trefniadau tebyg yn bodoli ar gyfer ardaloedd eraill y tu allan i’r UE. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd i wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE i barhau i elwa ar rai rhaglenni cyllid (Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn arbennig), mentrau rhwydweithio a mathau eraill o gydweithredu. Manteision eraill trefniadau o’r fath yw y byddai llywodraeth leol y DU a’r seneddau datganoledig yn gallu:  

-      parhau i gynnal deialog traws Ewropeaidd

-      trafod a chanfod atebion i faterion cyfoes sy’n poeni pawb

-      dylanwadu ar gyfreithiau newydd yr UE a allai effeithio ar gyfreithiau’r DU

-      rhoi cyfeiriad a throsolwg gwleidyddol dros barhau â phrosiectau a rhaglenni traws Ewropeaidd

-      cynnal rhwydweithiau a phartneriaethau

-      hwyluso cysylltiadau economaidd rhwng rhanbarthau

-      hyrwyddo’r arfer o gyfnewid profiadau ac arferion da ym maes llywodraethu lleol a rhanbarthol

-      hybu cyfnewidiadau diwylliannol ac academaidd

 

Cynigir dull gam wrth gam o gyflawni’r trefniant newydd hwn fel a ganlyn:

-      Tymor byr: sefydlu Cydbwyllgor o Bwyllgor y Rhanbarthau’r UE a’r DU er mwyn cael deialog ddwyochrog. 

-      Tymor canolig: cyfuno Cydbwyllgor Pwyllgor y Rhanbarthau’r UE-DU â Fforwm EFTA er mwyn galluogi deialog gyda Norwy a Gwlad yr Iâ a chamu ymlaen i feithrin cysylltiadau rhwng Môr y Gogledd a’r Iwerydd/Sianel.

-      Tymor hir: sefydlu Fforwm Gogledd-orllewin Ewrop yn cynnwys Pwyllgor y Rhanbarthau, EFTA a’r DU, gyda strategaeth facro economaidd wrth wraidd y cyfan. 

14.          O ran materion amgylcheddol, mae pawb ar y cyfan yn derbyn fod angen dull trawsffiniol, yn seiliedig ar safonau cyffredin gofynnol. Mae hyn yn hanfodol er mwyn diogelu’r amgylchedd yn effeithiol ac atal dadreoleiddio cystadleuol. Mae meysydd o’r fath wedi’u llywodraethu’n gryf gan bolisi a fframweithiau deddfwriaethol yr UE ar hyn o bryd, dan arolygiaeth sefydliadau’r UE. (Er enghraifft, mae set gyffredin o safonau wedi’u pennu ar gyfer dynodi a rheoli safleoedd Natura 2000 a chadwraeth cynefinoedd a rhywogaethau. Byddai safonau dŵr nofio, ansawdd aer, ansawdd dŵr a gwastraff yn feysydd eraill lle bu’r UE yn rym pwysig wrth osod safonau). Roedd cydymffurfio â gofynion yr UE hefyd yn bwysig wrth fodloni amrywiaeth o ryw 40 o ymrwymiadau a rhwymedigaethau amgylcheddol rhyngwladol, y mae’r DU a/neu’r UE wedi’u llofnodi.

15.          Mae CLlLC yn credu y dylid cadw’r set gyffredin o safonau amgylcheddol (gofynnol) sydd ar waith fel rhan o aelodaeth y DU o’r UE, mewn cyfraith ddomestig ar ôl Brexit. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo na fydd safonau amgylcheddol yn dioddef yn sgil Brexit. Felly, bydd angen i bedair llywodraeth y DU gydweithio ar drefniadau llywodraethu domestig newydd i gymryd lle’r swyddogaethau sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan sefydliadau’r UE wrth sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â’r safonau cyffredin hyn. Ar hyn o bryd, pan fo Aelod Wladwriaeth yn torri deddf yr UE, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn cyfeirio’r achos i Lys Cyfiawnder yr UE – proses sy’n gallu arwain at ddirwyon maes o law am ddiffyg cydymffurfio. Bydd angen cytuno ar ffordd o ddatrys anghydfod (a chytuno ar randdirymiad) rhwng y DU a’r UE er mwyn delio â’r achosion hynny lle codir cwestiynau am ba mor dderbyniol yw’r safonau newydd.

16.          Mae rhinweddau amlwg mewn unrhyw sefydliad(au) newydd y DU a sefydlir er mwyn ymgymryd â gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau’r UE ar hyn o bryd, a’u bod yn meithrin cysylltiadau gwaith agos â chyrff cyfredol yr UE. Er enghraifft, mae Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop yn asiantaeth yr UE sy’n cynnwys 33 o aelod-wledydd a chwe gwlad gydweithredol.  Mae eisoes yn gweithio’n agos gydag asiantaethau amgylcheddol cenedlaethol ac mae’r gofynion adrodd cyfredol yn sicrhau bod system glir ac agored o gymharu perfformiad cenedlaethol.

17.          Yn bwysicach, dylid parchu’r setliad datganoli wrth greu unrhyw sefydliadau newydd. Hefyd, mae angen ystyried cryfderau ac arbenigeddau’r gwledydd datganoledig mewn meysydd perthnasol (gan gynnwys Prifysgolion ac ati) wrth sefydlu corff/cyrff newydd ac ystyried ble i’w lleoli. Mae’r gallu i barhau i gymryd rhan ym mhrosiectau ymchwil yr UE sy’n gallu helpu i lywio polisïau amgylcheddol y dyfodol yn hynod berthnasol i hyn hefyd.


Parhau i gyfrannu at holl sefydliadau, cymdeithasau, partneriaeth a rhwydweithiau’r UE a rhai nad ydynt yn perthyn i’r UE

18.          Dylai Cymru barhau i ymgysylltu â holl sefydliadau, cymdeithasau, partneriaethau a rhwydweithiau’r UE a thu hwnt. Bydd cyfrannu atynt yn bwysicach fyth ar ôl Brexit, gan y bydd yn galluogi Cymru i barhau i ddylanwadu ar ddatblygiad polisi a deddfwriaeth allweddol yr UE a medru cael mynediad at gyllid ambell raglen. Mae’n hollbwysig sicrhau bod Cymru’n parhau i gymryd rhan yn y sefydliadau canlynol:

- CEMR (Cyngor Rhanbarthau a Rhanbarthau Dinesig Ewrop; y mae CLlLC yn aelod ohono)

- CPMR (Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol; mae Llywodraeth Cymru’n aelod ohoni)

- Cyngor Ewrop (mae CLlLC a Llywodraeth Cymru yn aelodau)

- Eurocities (mae Cyngor Caerdydd yn aelod ohono)

- Rhwydwaith Datblygu Gwledig Ewrop (mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn aelod)

 

Llywodraeth Cymru i ymrwymo i Siarter Hunanlywodraeth Ewrop ac egwyddor sybsidiaredd

19.          Y rhagdybiaeth yw bod grym yn cael ei drosglwyddo i’r lefel o lywodraeth agosaf at y bobl. Gellir cynnwys ymrwymiad o’r fath yn y concordat rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

20.        Ar ben hynny, wrth i Brexit fynd rhagddo a phwerau’r UE gael eu ‘dychwelyd’ i’r DU, byddai CLlLC yn dadlau, yn dilyn egwyddor o’r fath, y dylai pwerau gael eu datganoli nid yn unig i Gymru a’r Cynulliad Cenedlaethol, ond i lywodraeth leol hefyd lle bo’n berthnasol.

 

Meithrin perthnasau newydd

21.          Hefyd, bydd yn bwysig bod Cymru’n meithrin cysylltiadau â’r sefydliadau, cymdeithasau a rhwydweithiau newydd fel a ganlyn:

·         EEA (Ardal Economaidd Ewrop)

EFTA (Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop)